Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at midday
Statement: Updated at 12pm on Sunday 10 January 2021 Dr Robin Howe, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales, said: “The number of positive Coronavirus cases remains extremely high in Wales and is cause for serious concern. “In the light of this, on Friday the First Minister confirmed Wales’ lockdown will continue for a further three weeks, until January 29. “The Education Minister has announced that all schools and colleges will continue with online learning until at least 29 January, and will remain that way until the February half term unless there is a significant reduction in transmission. “In addition, Welsh Government have confirmed that non-essential retail, hospitality venues, licensed premises and leisure facilities will remain closed. Measures in shops and workplaces which remain open will be strengthened, including closing all showrooms, although they will still be able to operate click and collect services. “The roll-out of the Pfizer BioNTech and AstraZeneca Coronavirus vaccines continues in Wales with the the recently Medicines and Healthcare productes Regulatory Agency (MHRA) approved Moderna vaccine to be incorporated into the programme soon. “Vaccinating the adult population of Wales, to protect people from severe disease, is a significant task, and the vaccine will take time to reach everyone. The epidemiology of COVID-19 throughout the UK in late 2020 showed a clear need for rapid, high levels of vaccine uptake among vulnerable persons. “The Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) has issued a short statement outlining the case for optimising the existing vaccine programme within the UK to achieve maximum short term impact. The JCVI advises initially prioritising delivery of the first vaccine dose as this is highly likely to have a greater public health impact in the short term and reduce the number of preventable deaths from COVID-19. “Given the data available, and evidence from the use of many other vaccines, Public Health Wales fully supports the JCVI advice to increase a maximum interval between the first and second doses of 12 weeks for both Pfizer BioNTech and AstraZeneca vaccines. “Members of the public should not to phone your GP, pharmacy or hospital asking when they will get a vaccine. When someone is in one of the groups eligible for the vaccine, they will be invited to attend a dedicated clinic which will have been set up to ensure patient safety and that of the healthcare professionals. “The effects of the vaccines may not be seen nationally for some time, and with Wales at alert level four we must continue to follow the advice on keeping Wales safe. Stay at home, meet only the people you live with, maintain social distancing, wash your hands regularly, and work from home if you can. “As indicated by the Welsh Government, the new restrictions were brought forward due to the identification of a new more transmissible variant of Coronavirus. Public Health Wales has been working with UK partners to investigate and respond to this variant. “It is normal for viruses to undergo mutations, and we expect this to happen. Although the variant is easier to transmit, there is currently no evidence that it is more severe. “We are reminding people that all current guidance relating to Coronavirus continues to apply to the new variant, including advice relating to symptoms, social distancing, self-isolation, and vaccination. “The new variant shows up as positive in Public Health Wales’ existing Coronavirus tests, and people must continue to seek a test in the usual way if they develop Coronavirus symptoms. “Travellers who have been in or transited through the Republic of South Africa, Angola, Botswana, Eswatini, Lesotho, Malawi, Mauritius, Mozambique, Namibia, Seychelles, Zambia and Zimbabwe in the last 10 days are no longer allowed into the UK. We advise anyone returning to Wales from these countries to regularly check gov.uk for the latest guidance and advice on self-isolating. “If you or a member of your household develop a cough, fever or change in sense of taste or smell, you must self-isolate immediately and book a free Coronavirus test, either by calling 119 or by clicking here. “If you are due to travel out of the UK, please be aware of the changing situation and keep an eye on the FCO website for up to date details. “Public Health Wales urges everyone to follow the rules, to avoid transmission of Coronavirus and to protect everyone in our communities, including the most vulnerable.” Datganiad: Diweddarwyd
12yh Dydd Sul 10 Ionawr 2021 Dywedodd Dr Robin Howe, y Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i'r achosion o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae nifer yr achosion positif o Coronafeirws yn parhau i fod yn uchel iawn yng Nghymru ac mae’n destun pryder difrifol. “Yng ngoleuni hyn, ddydd Gwener cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd cyfyngiadau symud Cymru yn parhau am dair wythnos bellach, tan Ionawr 29. “Mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi y bydd pob ysgol a choleg yn parhau i ddysgu ar-lein tan o leiaf 29 Ionawr, ac y byddant yn aros felly tan hanner tymor mis Chwefror oni bai bod y trosglwyddiad yn gostwng yn sylweddol. “Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd lleoliadau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, lleoliadau lletygarwch, eiddo trwyddedig a chyfleusterau hamdden yn parhau ar gau. Bydd y mesurau yn y siopau a’r gweithleoedd sy’n parhau ar agor yn cael eu cryfhau, gan gynnwys cau pob ardal arddangos, ond byddant yn parhau i allu gweithredu gwasanaethau clicio a chasglu. “Mae cyflwyno brechlynnau Coronafeirws Pfizer BioNTech ac AstraZeneca yn parhau yng Nghymru a bydd y brechlyn Moderna a gymeradwywyd yn ddiweddar gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn cael ei gynnwys yn y rhaglen yn fuan. “Mae brechu oedolion Cymru er mwyn amddiffyn pobl rhag afiechyd difrifol yn dasg sylweddol a bydd yn cymryd amser i frechu pawb. Ddiwedd 2020, roedd epidemioleg COVID-19 ledled y DU yn golygu bod angen amlwg i gyflwyno’r brechlyn yn gyflym ac ar lefelau uchel ymhlith pobl sy’n agored i niwed. “Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi datganiad byr yn amlinellu’r achos dros optimeiddio’r rhaglen frechu bresennol yn y DU i gael yr effaith tymor byr fwyaf posibl. Mae'r JCVI yn cynghori i ddechrau ar flaenoriaethu rhoi dos cyntaf y brechlyn gan fod hyn yn hynod debygol o gael mwy o effaith ar iechyd y cyhoedd yn y tymor byr a lleihau nifer y marwolaethau y gellir eu hatal o COVID-19. “O ystyried y data sydd ar gael, a'r dystiolaeth o'r defnydd o lawer o frechlynnau eraill, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llwyr gefnogi cyngor y JCVI i gynyddu'r cyfnod mwyaf rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos o 12 wythnos ar gyfer brechlynnau Pfizer BioNTech ac AstraZeneca. “Ni ddylai aelodau’r cyhoedd ffonio eu meddyg teulu, fferyllfa nag ysbyty yn gofyn pryd y byddant yn cael brechlyn. Pan fydd rhywun yn un o'r grwpiau sy'n gymwys i gael y brechlyn, fe'u gwahoddir i fynd i glinig pwrpasol a fydd wedi'i sefydlu i sicrhau diogelwch cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. “Efallai na fydd effeithiau’r brechlynnau i’w gweld yn genedlaethol am beth amser, a chan fod Cymru ar lefel rhybudd pedwar, rhaid i ni barhau i ddilyn y cyngor ar gadw Cymru’n ddiogel. Arhoswch gartref, dylech ond cwrdd â'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw, cadwch bellter cymdeithasol, golchwch eich dwylo'n rheolaidd, a gweithiwch gartref os gallwch chi. “Fel y nododd Llywodraeth Cymru, cyflwynwyd y cyfyngiadau newydd yn gynt gan fod amrywiad newydd mwy trosglwyddadwy o Coronafeirws wedi’i ganfod. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn y DU i ymchwilio i'r amrywiad hwn ac ymateb iddo. "Mae'n arferol i feirysau newid, ac rydym yn disgwyl i hyn ddigwydd. Er bod yr amrywiad yn haws ei drosglwyddo, nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd ei fod yn fwy difrifol. "Rydym yn atgoffa pobl bod yr holl ganllawiau cyfredol sy'n ymwneud â’r Coronafeirws yn parhau i fod yn berthnasol i'r amrywiad newydd, gan gynnwys y cyngor sy'n ymwneud â symptomau, cadw pellter cymdeithasol, hunanynysu, a brechu. "Mae'r amrywiad newydd yn dangos yn positif ym mhrofion Coronafeirws presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae'n rhaid i bobl barhau i gael prawf yn y ffordd arferol os ydynt yn datblygu symptomau’r Coronafeirws.” “Nid yw teithwyr sydd wedi bod yng Ngweriniaeth De Affrica, Angola, Botswana, Eswatini, Lesotho, Malawi, Mauritius, Mozambique, Namibia, Seychelles, Zambia neu Zimbabwe, neu deithio drwy’r gwledydd hyn, yn ystod y 10 diwrnod diwethaf yn cael dod i mewn i’r DU. Rydym yn cynghori unrhyw un sy’n dychwelyd i Gymru o’r gwledydd hyn i edrych ar gov.uk yn rheolaidd am y cyfarwyddyd diweddaraf a’r cyngor ar hunanynysu. “Os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd yn datblygu peswch, twymyn neu newid i synnwyr blasu neu arogli, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf Coronafeirws am ddim naill ai drwy ffonio 119 neu drwy glicio yma. “Os ydych i fod i deithio y tu allan i’r DU, byddwch yn ymwybodol o’r sefyllfa sy’n newid a chadwch lygad ar wefan Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad am y manylion mwyaf diweddar. “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb i ddilyn y rheolau, i osgoi trosglwyddo Coronafeirws ac i ddiogelu pawb yn ein cymunedau, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed.”